1 Ac yr oedd dyn o'r Phariseaid, a'i enw Nicodemus, pennaeth yr Iddewon:
2 Hwn a ddaeth at yr Iesu liw nos, ac a ddywedodd wrtho, Rabbi, nyni a wyddom mai dysgawdwr ydwyt ti wedi dyfod oddi wrth Dduw: canys ni allai neb wneuthur y gwyrthiau hyn yr wyt ti yn eu gwneuthur, oni bai fod Duw gydag ef.
3 Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Oddieithr geni dyn drachefn, ni ddichon efe weled teyrnas Dduw.
4 Nicodemus a ddywedodd wrtho, Pa fodd y dichon dyn ei eni, ac efe yn hen? a ddichon efe fyned i groth ei fam eilwaith, a'i eni?
5 Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Oddieithr geni dyn o ddwfr ac o'r Ysbryd, ni ddichon efe fyned i mewn i deyrnas Dduw.
6 Yr hyn a aned o'r cnawd, sydd gnawd; a'r hyn a aned o'r Ysbryd, sydd ysbryd.
7 Na ryfedda ddywedyd ohonof fi wrthyt, Y mae'n rhaid eich geni chwi drachefn.