13 Ac nid esgynnodd neb i'r nef, oddieithr yr hwn a ddisgynnodd o'r nef, sef Mab y dyn, yr hwn sydd yn y nef.
14 Ac megis y dyrchafodd Moses y sarff yn y diffeithwch, felly y mae yn rhaid dyrchafu Mab y dyn;
15 Fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, ond caffael ohono fywyd tragwyddol.
16 Canys felly y carodd Duw y byd fel y rhoddodd efe ei unig‐anedig Fab, fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, ond caffael ohono fywyd tragwyddol.
17 Oblegid ni ddanfonodd Duw ei Fab i'r byd i ddamnio'r byd, ond fel yr achubid y byd trwyddo ef.
18 Yr hwn sydd yn credu ynddo ef, ni ddemnir: eithr yr hwn nid yw yn credu, a ddamniwyd eisoes; oherwydd na chredodd yn enw unig‐anedig Fab Duw.
19 A hon yw'r ddamnedigaeth, ddyfod goleuni i'r byd, a charu o ddynion y tywyllwch yn fwy na'r goleuni; canys yr oedd eu gweithredoedd hwy yn ddrwg.