19 A hon yw'r ddamnedigaeth, ddyfod goleuni i'r byd, a charu o ddynion y tywyllwch yn fwy na'r goleuni; canys yr oedd eu gweithredoedd hwy yn ddrwg.
20 Oherwydd pob un a'r sydd yn gwneuthur drwg, sydd yn casáu'r goleuni, ac nid yw yn dyfod i'r goleuni, fel nad argyhoedder ei weithredoedd ef.
21 Ond yr hwn sydd yn gwneuthur gwirionedd, sydd yn dyfod i'r goleuni, fel yr eglurhaer ei weithredoedd ef, mai yn Nuw y gwnaed hwynt.
22 Wedi'r pethau hyn, daeth yr Iesu a'i ddisgyblion i wlad Jwdea; ac a arhosodd yno gyda hwynt, ac a fedyddiodd.
23 Ac yr oedd Ioan hefyd yn bedyddio yn Ainon, yn agos i Salim; canys dyfroedd lawer oedd yno: a hwy a ddaethant, ac a'u bedyddiwyd:
24 Canys ni fwriasid Ioan eto yng ngharchar.
25 Yna y bu ymofyn rhwng rhai o ddisgyblion Ioan a'r Iddewon, ynghylch puredigaeth.