21 Ond yr hwn sydd yn gwneuthur gwirionedd, sydd yn dyfod i'r goleuni, fel yr eglurhaer ei weithredoedd ef, mai yn Nuw y gwnaed hwynt.
22 Wedi'r pethau hyn, daeth yr Iesu a'i ddisgyblion i wlad Jwdea; ac a arhosodd yno gyda hwynt, ac a fedyddiodd.
23 Ac yr oedd Ioan hefyd yn bedyddio yn Ainon, yn agos i Salim; canys dyfroedd lawer oedd yno: a hwy a ddaethant, ac a'u bedyddiwyd:
24 Canys ni fwriasid Ioan eto yng ngharchar.
25 Yna y bu ymofyn rhwng rhai o ddisgyblion Ioan a'r Iddewon, ynghylch puredigaeth.
26 A hwy a ddaethant at Ioan, ac a ddywedasant wrtho, Rabbi, yr hwn oedd gyda thi y tu hwnt i'r Iorddonen, am yr hwn y tystiolaethaist ti, wele, y mae hwnnw yn bedyddio, a phawb yn dyfod ato ef.
27 Ioan a atebodd ac a ddywedodd, Ni ddichon dyn dderbyn dim, oni bydd wedi ei roddi iddo o'r nef.