28 Chwychwi eich hunain ydych dystion i mi, ddywedyd ohonof fi, Nid myfi yw'r Crist, eithr fy mod wedi fy anfon o'i flaen ef.
29 Yr hwn sydd ganddo y briodferch, yw'r priodfab: ond cyfaill y priodfab, yr hwn sydd yn sefyll ac yn ei glywed ef, sydd yn llawenychu yn ddirfawr oblegid llef y priodfab: y llawenydd hwn mau fi gan hynny a gyflawnwyd.
30 Rhaid ydyw iddo ef gynyddu, ac i minnau leihau.
31 Yr hwn a ddaeth oddi uchod, sydd goruwch pawb oll: yr hwn sydd o'r ddaear, sydd o'r ddaear, ac am y ddaear y mae yn llefaru: yr hwn sydd yn dyfod o'r nef, sydd goruwch pawb.
32 A'r hyn a welodd efe ac a glywodd, hynny y mae efe yn ei dystiolaethu: ond nid oes neb yn derbyn ei dystiolaeth ef.
33 Yr hwn a dderbyniodd ei dystiolaeth ef, a seliodd mai geirwir yw Duw.
34 Canys yr hwn a anfonodd Duw, sydd yn llefaru geiriau Duw; oblegid nid wrth fesur y mae Duw yn rhoddi iddo ef yr Ysbryd.