33 Yr hwn a dderbyniodd ei dystiolaeth ef, a seliodd mai geirwir yw Duw.
34 Canys yr hwn a anfonodd Duw, sydd yn llefaru geiriau Duw; oblegid nid wrth fesur y mae Duw yn rhoddi iddo ef yr Ysbryd.
35 Y mae'r Tad yn caru y Mab, ac efe a roddodd bob peth yn ei law ef.
36 Yr hwn sydd yn credu yn y Mab, y mae ganddo fywyd tragwyddol: a'r hwn sydd heb gredu i'r Mab, ni wêl fywyd; eithr y mae digofaint Duw yn aros arno ef.