9 Nicodemus a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Pa fodd y dichon y pethau hyn fod?
10 Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn ddysgawdwr yn Israel, ac ni wyddost y pethau hyn?
11 Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Mai yr hyn a wyddom yr ydym yn ei lefaru, a'r hyn a welsom yr ydym yn ei dystiolaethu; a'n tystiolaeth ni nid ydych yn ei derbyn.
12 Os dywedais i chwi bethau daearol, a chwithau nid ydych yn credu; pa fodd, os dywedaf i chwi bethau nefol, y credwch?
13 Ac nid esgynnodd neb i'r nef, oddieithr yr hwn a ddisgynnodd o'r nef, sef Mab y dyn, yr hwn sydd yn y nef.
14 Ac megis y dyrchafodd Moses y sarff yn y diffeithwch, felly y mae yn rhaid dyrchafu Mab y dyn;
15 Fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, ond caffael ohono fywyd tragwyddol.