1 Pan wybu'r Arglwydd gan hynny glywed o'r Phariseaid fod yr Iesu yn gwneuthur ac yn bedyddio mwy o ddisgyblion nag Ioan,
2 (Er na fedyddiasai yr Iesu ei hun, eithr ei ddisgyblion ef,)
3 Efe a adawodd Jwdea, ac a aeth drachefn i Galilea.
4 Ac yr oedd yn rhaid iddo fyned trwy Samaria.