10 Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Ped adwaenit ti ddawn Duw, a phwy yw'r hwn sydd yn dywedyd wrthyt, Dyro i mi i yfed; tydi a ofynasit iddo ef, ac efe a roddasai i ti ddwfr bywiol.
11 Y wraig a ddywedodd wrtho, Arglwydd, nid oes gennyt ti ddim i godi dwfr, a'r pydew sydd ddwfn: o ba le gan hynny y mae gennyt ti y dwfr bywiol hwnnw?
12 Ai mwy wyt ti na'n tad Jacob, yr hwn a roddodd i ni'r pydew, ac efe ei hun a yfodd ohono, a'i feibion, a'i anifeiliaid?
13 Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Pwy bynnag sydd yn yfed o'r dwfr hwn, efe a sycheda drachefn:
14 Ond pwy bynnag a yfo o'r dwfr a roddwyf fi iddo, ni sycheda yn dragywydd; eithr y dwfr a roddwyf iddo, a fydd ynddo yn ffynnon o ddwfr yn tarddu i fywyd tragwyddol.
15 Y wraig a ddywedodd wrtho, Arglwydd, dyro i mi y dwfr hwn, fel na sychedwyf, ac na ddelwyf yma i godi dwfr.
16 Iesu a ddywedodd wrthi, Dos, galw dy ŵr, a thyred yma.