22 Chwychwi ydych yn addoli'r peth ni wyddoch: ninnau ydym yn addoli'r peth a wyddom: canys iachawdwriaeth sydd o'r Iddewon.
23 Ond dyfod y mae'r awr, ac yn awr y mae hi, pan addolo'r gwir addolwyr y Tad mewn ysbryd a gwirionedd: canys y cyfryw y mae'r Tad yn eu ceisio i'w addoli ef.
24 Ysbryd yw Duw; a rhaid i'r rhai a'i haddolant ef, addoli mewn ysbryd a gwirionedd.
25 Y wraig a ddywedodd wrtho, Mi a wn fod y Meseias yn dyfod, yr hwn a elwir Crist: pan ddelo hwnnw, efe a fynega i ni bob peth.
26 Iesu a ddywedodd wrthi hi, Myfi, yr hwn wyf yn ymddiddan â thi, yw hwnnw.
27 Ac ar hyn y daeth ei ddisgyblion; a bu ryfedd ganddynt ei fod ef yn ymddiddan â gwraig: er hynny ni ddywedodd neb, Beth a geisi? neu, Paham yr ydwyt yn ymddiddan â hi?
28 Yna y wraig a adawodd ei dyfrlestr, ac a aeth i'r ddinas, ac a ddywedodd wrth y dynion,