27 Ac ar hyn y daeth ei ddisgyblion; a bu ryfedd ganddynt ei fod ef yn ymddiddan â gwraig: er hynny ni ddywedodd neb, Beth a geisi? neu, Paham yr ydwyt yn ymddiddan â hi?
28 Yna y wraig a adawodd ei dyfrlestr, ac a aeth i'r ddinas, ac a ddywedodd wrth y dynion,
29 Deuwch, gwelwch ddyn yr hwn a ddywedodd i mi yr hyn oll a wneuthum: onid hwn yw'r Crist?
30 Yna hwy a aethant allan o'r ddinas, ac a ddaethant ato ef.
31 Yn y cyfamser y disgyblion a atolygasant iddo, gan ddywedyd, Rabbi, bwyta.
32 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae gennyf fi fwyd i'w fwyta yr hwn ni wyddoch chwi oddi wrtho.
33 Am hynny y disgyblion a ddywedasant wrth ei gilydd, A ddug neb iddo ddim i'w fwyta?