44 Canys yr Iesu ei hun a dystiolaethodd, nad ydyw proffwyd yn cael anrhydedd yn ei wlad ei hun.
45 Yna pan ddaeth efe i Galilea, y Galileaid a'i derbyniasant ef, wedi iddynt weled yr holl bethau a wnaeth efe yn Jerwsalem ar yr ŵyl: canys hwythau a ddaethant i'r ŵyl.
46 Felly yr Iesu a ddaeth drachefn i Gana yng Ngalilea, lle y gwnaeth efe y dwfr yn win. Ac yr oedd rhyw bendefig, yr hwn yr oedd ei fab yn glaf yng Nghapernaum.
47 Pan glybu hwn ddyfod o'r Iesu o Jwdea i Galilea, efe a aeth ato ef, ac a atolygodd iddo ddyfod i waered, a iacháu ei fab ef: canys yr oedd efe ymron marw.
48 Yna Iesu a ddywedodd wrtho ef, Oni welwch chwi arwyddion a rhyfeddodau, ni chredwch.
49 Y pendefig a ddywedodd wrtho ef, O Arglwydd, tyred i waered cyn marw fy machgen.
50 Iesu a ddywedodd wrtho ef, Dos ymaith; y mae dy fab yn fyw. A'r gŵr a gredodd y gair a ddywedasai Iesu wrtho, ac efe a aeth ymaith.