1 Wedi hynny yr oedd gŵyl yr Iddewon; a'r Iesu a aeth i fyny i Jerwsalem.
2 Ac y mae yn Jerwsalem, wrth farchnad y defaid, lyn a elwir yn Hebraeg, Bethesda, ac iddo bum porth;
3 Yn y rhai y gorweddai lliaws mawr o rai cleifion, deillion, cloffion, gwywedigion, yn disgwyl am gynhyrfiad y dwfr.
4 Canys angel oedd ar amserau yn disgyn i'r llyn, ac yn cynhyrfu'r dwfr: yna yr hwn a elai i mewn yn gyntaf ar ôl cynhyrfu'r dwfr, a âi yn iach o ba glefyd bynnag a fyddai arno.
5 Ac yr oedd rhyw ddyn yno, yr hwn a fuasai glaf namyn dwy flynedd deugain.
6 Yr Iesu, pan welodd hwn yn gorwedd, a gwybod ei fod ef felly yn hir o amser bellach, a ddywedodd wrtho, A fynni di dy wneuthur yn iach?