11 Efe a atebodd iddynt, Yr hwn a'm gwnaeth i yn iach, efe a ddywedodd wrthyf, Cyfod dy wely, a rhodia.
12 Yna hwy a ofynasant iddo, Pwy yw'r dyn a ddywedodd wrthyt ti, Cyfod dy wely, a rhodia?
13 A'r hwn a iachasid ni wyddai pwy oedd efe: canys yr Iesu a giliasai o'r dyrfa oedd yn y fan honno.
14 Wedi hynny yr Iesu a'i cafodd ef yn y deml, ac a ddywedodd wrtho, Wele, ti a wnaethpwyd yn iach: na phecha mwyach, rhag digwydd i ti beth a fyddo gwaeth.
15 Y dyn a aeth ymaith, ac a fynegodd i'r Iddewon, mai'r Iesu oedd yr hwn a'i gwnaethai ef yn iach.
16 Ac am hynny yr Iddewon a erlidiasant yr Iesu, ac a geisiasant ei ladd ef, oblegid iddo wneuthur y pethau hyn ar y Saboth.
17 Ond yr Iesu a'u hatebodd hwynt, Y mae fy Nhad yn gweithio hyd yn hyn, ac yr ydwyf finnau yn gweithio.