20 Canys y Tad sydd yn caru'r Mab, ac yn dangos iddo yr hyn oll y mae efe yn ei wneuthur: ac efe a ddengys iddo ef weithredoedd mwy na'r rhai hyn, fel y rhyfeddoch chwi.
21 Oblegid megis y mae'r Tad yn cyfodi'r rhai meirw, ac yn eu bywhau; felly hefyd y mae'r Mab yn bywhau y rhai a fynno.
22 Canys y Tad nid yw yn barnu neb; eithr efe a roddes bob barn i'r Mab:
23 Fel yr anrhydeddai pawb y Mab, fel y maent yn anrhydeddu'r Tad. Yr hwn nid yw yn anrhydeddu'r Mab, nid yw yn anrhydeddu'r Tad yr hwn a'i hanfonodd ef.
24 Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Y neb sydd yn gwrando fy ngair i, ac yn credu i'r hwn a'm hanfonodd i, a gaiff fywyd tragwyddol, ac ni ddaw i farn; eithr efe a aeth trwodd o farwolaeth i fywyd.
25 Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Y mae'r awr yn dyfod, ac yn awr y mae, pan glywo'r meirw lef Mab Duw: a'r rhai a glywant, a fyddant byw.
26 Canys megis y mae gan y Tad fywyd ynddo ei hunan, felly y rhoddes efe i'r Mab hefyd fod ganddo fywyd ynddo ei hun;