25 Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Y mae'r awr yn dyfod, ac yn awr y mae, pan glywo'r meirw lef Mab Duw: a'r rhai a glywant, a fyddant byw.
26 Canys megis y mae gan y Tad fywyd ynddo ei hunan, felly y rhoddes efe i'r Mab hefyd fod ganddo fywyd ynddo ei hun;
27 Ac a roddes awdurdod iddo i wneuthur barn hefyd, oherwydd ei fod yn Fab dyn.
28 Na ryfeddwch am hyn: canys y mae'r awr yn dyfod, yn yr hon y caiff pawb a'r sydd yn y beddau glywed ei leferydd ef:
29 A hwy a ddeuant allan: y rhai a wnaethant dda, i atgyfodiad bywyd; ond y rhai a wnaethant ddrwg, i atgyfodiad barn.
30 Ni allaf fi wneuthur dim ohonof fy hunan; fel yr ydwyf yn clywed, yr ydwyf yn barnu: a'm barn i sydd gyfiawn; canys nid ydwyf yn ceisio fy ewyllys fy hunan, ond ewyllys y Tad yr hwn a'm hanfonodd i.
31 Os ydwyf fi yn tystiolaethu amdanaf fy hunan, nid yw fy nhystiolaeth i wir.