29 A hwy a ddeuant allan: y rhai a wnaethant dda, i atgyfodiad bywyd; ond y rhai a wnaethant ddrwg, i atgyfodiad barn.
30 Ni allaf fi wneuthur dim ohonof fy hunan; fel yr ydwyf yn clywed, yr ydwyf yn barnu: a'm barn i sydd gyfiawn; canys nid ydwyf yn ceisio fy ewyllys fy hunan, ond ewyllys y Tad yr hwn a'm hanfonodd i.
31 Os ydwyf fi yn tystiolaethu amdanaf fy hunan, nid yw fy nhystiolaeth i wir.
32 Arall sydd yn tystiolaethu amdanaf fi; ac mi a wn mai gwir yw'r dystiolaeth y mae efe yn ei thystiolaethu amdanaf fi.
33 Chwychwi a anfonasoch at Ioan, ac efe a ddug dystiolaeth i'r gwirionedd.
34 Ond myfi nid ydwyf yn derbyn tystiolaeth gan ddyn: eithr y pethau hyn yr ydwyf yn eu dywedyd, fel y gwareder chwi.
35 Efe oedd gannwyll yn llosgi, ac yn goleuo; a chwithau oeddech ewyllysgar i orfoleddu dros amser yn ei oleuni ef.