35 Efe oedd gannwyll yn llosgi, ac yn goleuo; a chwithau oeddech ewyllysgar i orfoleddu dros amser yn ei oleuni ef.
36 Ond y mae gennyf fi dystiolaeth fwy nag Ioan: canys y gweithredoedd a roddes y Tad i mi i'w gorffen, y gweithredoedd hynny y rhai yr ydwyf fi yn eu gwneuthur, sydd yn tystiolaethu amdanaf fi, mai'r Tad a'm hanfonodd i.
37 A'r Tad, yr hwn a'm hanfonodd i, efe a dystiolaethodd amdanaf fi. Ond ni chlywsoch chwi ei lais ef un amser, ac ni welsoch ei wedd ef.
38 Ac nid oes gennych chwi mo'i air ef yn aros ynoch: canys yr hwn a anfonodd efe, hwnnw nid ydych chwi yn credu iddo.
39 Chwiliwch yr ysgrythurau: canys ynddynt hwy yr ydych chwi yn meddwl cael bywyd tragwyddol: a hwynt‐hwy yw'r rhai sydd yn tystiolaethu amdanaf fi.
40 Ond ni fynnwch chwi ddyfod ataf fi, fel y caffoch fywyd.
41 Nid ydwyf fi yn derbyn gogoniant oddi wrth ddynion.