42 Ond myfi a'ch adwaen chwi, nad oes gennych gariad Duw ynoch.
43 Myfi a ddeuthum yn enw fy Nhad, ac nid ydych yn fy nerbyn i: os arall a ddaw yn ei enw ei hun, hwnnw a dderbyniwch.
44 Pa fodd y gellwch chwi gredu, y rhai ydych yn derbyn gogoniant gan eich gilydd, ac heb geisio'r gogoniant sydd oddi wrth Dduw yn unig?
45 Na thybiwch y cyhuddaf fi chwi wrth y Tad: y mae a'ch cyhudda chwi, sef Moses, yn yr hwn yr ydych yn gobeithio.
46 Canys pe credasech chwi i Moses, chwi a gredasech i minnau: oblegid amdanaf fi yr ysgrifennodd efe.
47 Ond os chwi ni chredwch i'w ysgrifeniadau ef, pa fodd y credwch i'm geiriau i?