8 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Cyfod cymer dy wely i fyny, a rhodia.
9 Ac yn ebrwydd y gwnaed y dyn yn iach; ac efe a gododd ei wely, ac a rodiodd. A'r Saboth oedd y diwrnod hwnnw.
10 Am hynny yr Iddewon a ddywedasant wrth yr hwn a wnaethid yn iach, Y Saboth yw hi: nid cyfreithlon i ti godi dy wely.
11 Efe a atebodd iddynt, Yr hwn a'm gwnaeth i yn iach, efe a ddywedodd wrthyf, Cyfod dy wely, a rhodia.
12 Yna hwy a ofynasant iddo, Pwy yw'r dyn a ddywedodd wrthyt ti, Cyfod dy wely, a rhodia?
13 A'r hwn a iachasid ni wyddai pwy oedd efe: canys yr Iesu a giliasai o'r dyrfa oedd yn y fan honno.
14 Wedi hynny yr Iesu a'i cafodd ef yn y deml, ac a ddywedodd wrtho, Wele, ti a wnaethpwyd yn iach: na phecha mwyach, rhag digwydd i ti beth a fyddo gwaeth.