4 A'r pasg, gŵyl yr Iddewon, oedd yn, agos.
5 Yna yr Iesu a ddyrchafodd ei lygaid, ac a welodd fod tyrfa fawr yn dyfod ato; ac a ddywedodd wrth Philip, O ba le y prynwn ni fara, fel y caffo y rhai hyn fwyta?
6 (A hyn a ddywedodd efe i'w brofi ef: canys efe a wyddai beth yr oedd efe ar fedr ei wneuthur.)
7 Philip a'i hatebodd ef, Gwerth dau can ceiniog o fara nid yw ddigon iddynt hwy, fel y gallo pob un ohonynt gymryd ychydig.
8 Un o'i ddisgyblion a ddywedodd wrtho, Andreas, brawd Simon Pedr,
9 Y mae yma ryw fachgennyn, a chanddo bum torth haidd, a dau bysgodyn: ond beth yw hynny rhwng cynifer?
10 A'r Iesu a ddywedodd, Perwch i'r dynion eistedd i lawr. Ac yr oedd glaswellt lawer yn y fan honno. Felly y gwŷr a eisteddasant i lawr, ynghylch pum mil o nifer.