9 Y mae yma ryw fachgennyn, a chanddo bum torth haidd, a dau bysgodyn: ond beth yw hynny rhwng cynifer?
10 A'r Iesu a ddywedodd, Perwch i'r dynion eistedd i lawr. Ac yr oedd glaswellt lawer yn y fan honno. Felly y gwŷr a eisteddasant i lawr, ynghylch pum mil o nifer.
11 A'r Iesu a gymerth y torthau, ac wedi iddo ddiolch, efe a'u rhannodd i'r disgyblion, a'r disgyblion i'r rhai oedd yn eistedd; felly hefyd o'r pysgod, cymaint ag a fynasant.
12 Ac wedi eu digoni hwynt, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Cesglwch y briwfwyd gweddill, fel na choller dim.
13 Am hynny hwy a'u casglasant, ac a lanwasant ddeuddeg basgedaid o'r briwfwyd o'r pum torth haidd a weddillasai gan y rhai a fwytasent.
14 Yna y dynion, pan welsant yr arwydd a wnaethai'r Iesu, a ddywedasant, Hwn yn ddiau yw'r proffwyd oedd ar ddyfod i'r byd.
15 Yr Iesu gan hynny, pan wybu eu bod hwy ar fedr dyfod, a'i gipio ef i'w wneuthur yn frenin, a giliodd drachefn i'r mynydd, ei hunan yn unig.