11 Gwae hwynt-hwy! oblegid hwy a gerddasant yn ffordd Cain, ac a'u collwyd trwy dwyll gwobr Balaam, ac a'u difethwyd yng ngwrthddywediad Core.
12 Y rhai hyn sydd frychau yn eich cariad-wleddoedd chwi, yn cydwledda â chwi, yn ddi-ofn yn eu pesgi eu hunain: cymylau di-ddwfr ydynt, a gylcharweinir gan wyntoedd; prennau diflanedig heb ffrwyth, dwywaith yn feirw, wedi eu diwreiddio;
13 Tonnau cynddeiriog y môr, yn ewynnu allan eu cywilydd eu hunain; sêr gwibiog, i'r rhai y cadwyd niwl y tywyllwch yn dragywydd.
14 Ac Enoch hefyd, y seithfed o Adda, a broffwydodd am y rhai hyn, gan ddywedyd, Wele, y mae'r Arglwydd yn dyfod gyda myrddiwn o'i saint,
15 I wneuthur barn yn erbyn pawb, ac i lwyr argyhoeddi'r holl rai annuwiol ohonynt am holl weithredoedd eu hannuwioldeb, y rhai a wnaethant hwy yn annuwiol, ac am yr holl eiriau caledion, y rhai a lefarodd pechaduriaid annuwiol yn ei erbyn ef.
16 Y rhai hyn sydd rwgnachwyr, tuchanwyr, yn cerdded yn ôl eu chwantau eu hunain; ac y mae eu genau yn llefaru geiriau chwyddedig, yn mawrygu wynebau dynion er mwyn budd.
17 Eithr chwi, O rai annwyl, cofiwch y geiriau a ragddywedwyd gan apostolion ein Harglwydd Iesu Grist;