17 Eithr chwi, O rai annwyl, cofiwch y geiriau a ragddywedwyd gan apostolion ein Harglwydd Iesu Grist;
18 Ddywedyd ohonynt i chwi, y bydd yn yr amser diwethaf watwarwyr, yn cerdded yn ôl eu chwantau annuwiol eu hunain.
19 Y rhai hyn yw'r rhai sydd yn eu didoli eu hunain, yn anianol, heb fod yr Ysbryd ganddynt.
20 Eithr chwychwi, anwylyd, gan eich adeiladu eich hunain ar eich sancteiddiaf ffydd, a gweddïo yn yr Ysbryd Glân,
21 Ymgedwch yng nghariad Duw, gan ddisgwyl trugaredd ein Harglwydd Iesu Grist i fywyd tragwyddol.
22 A thrugarhewch wrth rai, gan wneuthur rhagor:
23 Eithr rhai cedwch trwy ofn, gan eu cipio hwy allan o'r tân; gan gasáu hyd yn oed y wisg a halogwyd gan y cnawd.