21 Ymgedwch yng nghariad Duw, gan ddisgwyl trugaredd ein Harglwydd Iesu Grist i fywyd tragwyddol.
22 A thrugarhewch wrth rai, gan wneuthur rhagor:
23 Eithr rhai cedwch trwy ofn, gan eu cipio hwy allan o'r tân; gan gasáu hyd yn oed y wisg a halogwyd gan y cnawd.
24 Eithr i'r hwn a ddichon eich cadw chwi yn ddi-gwymp, a'ch gosod gerbron ei ogoniant ef yn ddifeius mewn gorfoledd,
25 I'r unig ddoeth Dduw, ein Hiachawdwr ni, y byddo gogoniant a mawredd, gallu ac awdurdod, yr awr hon ac yn dragywydd. Amen.