4 Canys y mae rhyw ddynion wedi ymlusgo i mewn, y rhai a ragordeiniwyd er ys talm i'r farnedigaeth hon; annuwiolion, yn troi gras ein Duw ni i drythyllwch, ac yn gwadu'r unig Arglwydd Dduw, a'n Harglwydd Iesu Grist.
5 Ewyllysio gan hynny yr ydwyf eich coffáu chwi, gan eich bod unwaith yn gwybod hyn; i'r Arglwydd, wedi iddo waredu'r bobl o dir yr Aifft, ddistrywio eilwaith y rhai ni chredasant.
6 Yr angylion hefyd, y rhai ni chadwasant eu dechreuad, eithr a adawsant eu trigfa eu hun, a gadwodd efe mewn cadwynau tragwyddol dan dywyllwch, i farn y dydd mawr.
7 Megis y mae Sodom a Gomorra, a'r dinasoedd o'u hamgylch mewn cyffelyb fodd â hwynt, wedi puteinio, a myned ar ôl cnawd arall, wedi eu gosod yn esampl, gan ddioddef dialedd tân tragwyddol.
8 Yr un ffunud hefyd y mae'r breuddwydwyr hyn yn halogi'r cnawd, yn diystyru llywodraeth, ac yn cablu'r rhai sydd mewn awdurdod.
9 Eithr Michael yr archangel, pan oedd efe, wrth ymddadlau â diafol, yn ymresymu ynghylch corff Moses, ni feiddiodd ddwyn barn gablaidd arno, eithr efe a ddywedodd, Cerydded yr Arglwydd dydi.
10 Eithr y rhai hyn sydd yn cablu'r pethau nis gwyddant: a pha bethau bynnag y maent yn anianol, fel anifeiliaid direswm, yn eu gwybod, yn y rhai hynny ymlygru y maent.