19 Canys mi a wn y digwydd hyn i mi er iachawdwriaeth, trwy eich gweddi chwi, a chynhorthwy Ysbryd Iesu Grist,
20 Yn ôl fy awyddfryd a'm gobaith, na'm gwaradwyddir mewn dim, eithr mewn pob hyder, fel bob amser, felly yr awron hefyd, y mawrygir Crist yn fy nghorff i, pa un bynnag ai trwy fywyd, ai trwy farwolaeth.
21 Canys byw i mi yw Crist, a marw sydd elw.
22 Ac os byw fyddaf yn y cnawd, hyn yw ffrwyth fy llafur: a pha beth a ddewisaf, nis gwn.
23 Canys y mae'n gyfyng arnaf o'r ddeutu, gan fod gennyf chwant i'm datod, ac i fod gyda Christ; canys llawer iawn gwell ydyw.
24 Eithr aros yn y cnawd sydd fwy angenrheidiol o'ch plegid chwi.
25 A chennyf yr hyder hwn, yr wyf yn gwybod yr arhosaf ac y cyd‐drigaf gyda chwi oll, er cynnydd i chwi, a llawenydd y ffydd;