26 Fel y byddo eich gorfoledd chwi yn helaethach yng Nghrist Iesu o'm plegid i, trwy fy nyfodiad i drachefn atoch.
27 Yn unig ymddygwch yn addas i efengyl Crist; fel pa un bynnag a wnelwyf ai dyfod a'ch gweled chwi, ai bod yn absennol, y clywyf oddi wrth eich helynt chwi, eich bod yn sefyll yn un ysbryd, ag un enaid, gan gydymdrech gyda ffydd yr efengyl;
28 Ac heb eich dychrynu mewn un dim, gan eich gwrthwynebwyr: yr hyn iddynt hwy yn wir sydd arwydd sicr o golledigaeth, ond i chwi o iachawdwriaeth, a hynny gan Dduw.
29 Canys i chwi y rhoddwyd, bod i chwi er Crist, nid yn unig gredu ynddo ef, ond hefyd ddioddef erddo ef;
30 Gan fod i chwi yr un ymdrin ag a welsoch ynof fi, ac yr awron a glywch ei fod ynof fi.