6 Gan fod yn hyderus yn hyn, y bydd i'r hwn a ddechreuodd ynoch waith da, ei orffen hyd ddydd Iesu Grist:
7 Megis y mae'n iawn i mi synied hyn amdanoch oll, am eich bod gennyf yn fy nghalon, yn gymaint â'ch bod chwi oll, yn gystal yn fy rhwymau, ag yn fy amddiffyn a chadarnhad yr efengyl, yn gyfranogion â mi o ras.
8 Canys Duw sydd dyst i mi, mor hiraethus wyf amdanoch oll yn ymysgaroedd Iesu Grist.
9 A hyn yr wyf yn ei weddïo, ar amlhau o'ch cariad chwi eto fwyfwy mewn gwybodaeth a phob synnwyr;
10 Fel y profoch y pethau sydd â gwahaniaeth rhyngddynt; fel y byddoch bur a didramgwydd hyd ddydd Crist;
11 Wedi eich cyflawni â ffrwythau cyfiawnder, y rhai sydd trwy Iesu Grist, er gogoniant a moliant i Dduw.
12 Ac mi a ewyllysiwn i chwi wybod, frodyr, am y pethau a ddigwyddodd i mi, ddyfod ohonynt yn hytrach er llwyddiant i'r efengyl;