21 Canys pawb sydd yn ceisio'r eiddynt eu hunain, nid yr eiddo Crist Iesu.
22 Eithr y prawf ohono ef chwi a'i gwyddoch, mai fel plentyn gyda thad, y gwasanaethodd efe gyda myfi yn yr efengyl.
23 Hwn gan hynny yr ydwyf yn gobeithio ei ddanfon, cyn gynted ag y gwelwyf yr hyn a fydd i mi.
24 Ac y mae gennyf hyder yn yr Arglwydd y deuaf finnau hefyd ar fyrder atoch.
25 Eithr mi a dybiais yn angenrheidiol ddanfon atoch Epaffroditus, fy mrawd, a'm cyd‐weithiwr, a'm cyd‐filwr, ond eich cennad chwi, a gweinidog i'm cyfreidiau innau.
26 Canys yr oedd efe yn hiraethu amdanoch oll, ac yn athrist iawn, oblegid i chwi glywed ei fod ef yn glaf.
27 Canys yn wir efe a fu glaf yn agos i angau: ond Duw a drugarhaodd wrtho ef; ac nid wrtho ef yn unig, ond wrthyf finnau hefyd, rhag cael ohonof dristwch ar dristwch.