27 Canys yn wir efe a fu glaf yn agos i angau: ond Duw a drugarhaodd wrtho ef; ac nid wrtho ef yn unig, ond wrthyf finnau hefyd, rhag cael ohonof dristwch ar dristwch.
28 Yn fwy diwyd gan hynny yr anfonais i ef, fel gwedi i chwi ei weled ef drachefn, y byddech chwi lawen, ac y byddwn innau yn llai fy nhristwch.
29 Derbyniwch ef gan hynny yn yr Arglwydd gyda phob llawenydd; a'r cyfryw rai gwnewch gyfrif ohonynt:
30 Canys oblegid gwaith Crist y bu efe yn agos i angau, ac y bu diddarbod am ei einioes, fel y cyflawnai efe eich diffyg chwi o'ch gwasanaeth tuag ataf fi.