17 Nid oherwydd fy mod i yn ceisio rhodd: eithr yr ydwyf yn ceisio ffrwyth yn amlhau erbyn eich cyfrif chwi.
18 Ond y mae gennyf bob peth, ac y mae gennyf helaethrwydd: mi a gyflawnwyd, wedi i mi dderbyn gan Epaffroditus y pethau a ddaethant oddi wrthych chwi; sef arogl peraidd, aberth cymeradwy, bodlon gan Dduw.
19 A'm Duw i a gyflawna eich holl raid chwi yn ôl ei olud ef mewn gogoniant, yng Nghrist Iesu.
20 Ond i Dduw a'n Tad ni y byddo gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
21 Anerchwch yr holl saint yng Nghrist Iesu. Y mae'r brodyr sydd gyda mi yn eich annerch.
22 Y mae'r saint oll yn eich annerch chwi, ac yn bennaf y rhai sydd o deulu Cesar.
23 Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi oll. Amen.At y Philipiaid yr ysgrifennwyd o Rufain gydag Epaffroditus.