3 Ac yr ydwyf yn dymuno arnat tithau, fy ngwir gymar, cymorth y gwragedd hynny y rhai yn yr efengyl a gydlafuriasant â mi, ynghyd â Chlement hefyd, a'm cyd‐weithwyr eraill, y rhai y mae eu henwau yn llyfr y bywyd.
4 Llawenhewch yn yr Arglwydd yn wastadol: a thrachefn meddaf, Llawenhewch.
5 Bydded eich arafwch yn hysbys i bob dyn. Y mae'r Arglwydd yn agos.
6 Na ofelwch am ddim: eithr ym mhob peth mewn gweddi ac ymbil gyda diolchgarwch, gwneler eich deisyfiadau chwi yn hysbys gerbron Duw.
7 A thangnefedd Duw, yr hwn sydd uwchlaw pob deall, a geidw eich calonnau a'ch meddyliau yng Nghrist Iesu.
8 Yn ddiwethaf, frodyr, pa bethau bynnag sydd wir, pa bethau bynnag sydd onest, pa bethau bynnag sydd gyfiawn, pa bethau bynnag sydd bur, pa bethau bynnag sydd hawddgar, pa bethau bynnag sydd ganmoladwy, od oes un rhinwedd, ac od oes dim clod, meddyliwch am y pethau hyn.
9 Y rhai a ddysgasoch, ac a dderbyniasoch, ac a glywsoch, ac a welsoch ynof fi, y pethau hyn gwnewch: a Duw'r heddwch a fydd gyda chwi.