12 Pan ddanfonwyf Artemas atat, neu Tychicus, bydd ddyfal i ddyfod ataf i Nicopolis: canys yno yr arfaethais aeafu.
13 Hebrwng Senas y cyfreithiwr, ac Apolos yn ddiwyd; fel na byddo arnynt eisiau dim.
14 A dysged yr eiddom ninnau flaenori mewn gweithredoedd da i angenrheidiau, fel na byddont yn ddiffrwyth.
15 Y mae'r holl rai sydd gyda mi yn dy annerch. Annerch y rhai sydd yn ein caru ni yn y ffydd. Gras fyddo gyda chwi oll. Amen.At Titus, yr esgob cyntaf a ddewiswyd ar eglwys y Cretiaid, yr ysgrifennwyd o Nicopolis ym Macedonia.