4 Dylai pawb arall, sy'n aros lle rydych chi, helpu'r rhai sy'n mynd yn ôl, drwy roi arian ac aur, cyfarpar ac anifeiliaid iddyn nhw. Hefyd offrymau gwirfoddol ar gyfer teml Dduw yn Jerwsalem.’”
5 Felly dyma arweinwyr llwythau Jwda a Benjamin a'r offeiriaid a'r Lefiaid yn paratoi i fynd yn ôl – pawb oedd wedi eu hysbrydoli gan Dduw i fynd i adeiladu teml yr ARGLWYDD yn Jerwsalem.
6 Ac roedd eu cymdogion i gyd yn eu helpu nhw, drwy roi llestri o arian ac aur iddyn nhw, cyfarpar, anifeiliaid, a lot fawr o anrhegion drud eraill, heb sôn am yr offrymau gwirfoddol.
7 Yna dyma'r brenin Cyrus yn dod â'r holl lestri oedd Nebwchadnesar wedi eu cymryd o deml yr ARGLWYDD yn Jerwsalem i'w gosod yn nheml ei dduw ei hun.
8 Rhoddodd nhw i Mithredath, ei drysorydd, a'i gael i gyfri'r cwbl a'u cyflwyno i Sheshbatsar, pennaeth Jwda,
9-10 Dyma'r rhestr o eitemau:30 dysgl aur1,000 o ddysglau arian29 eitem arall o arian30 powlen aur410 o bowlenni arian gwahanol1,000 o lestri eraill
11 Felly cyfanswm y llestri aur ac arian oedd 5,400. Daeth Sheshbatsar â nhw i gyd i Jerwsalem pan ddaeth y caethion yn ôl o Babilon.