1 Tra roedd Esra yn gweddïo ac yn cyffesu, ac yn crïo ar ei hyd ar lawr o flaen teml Dduw, roedd tyrfa fawr o bobl Israel – dynion, merched, a phlant – wedi casglu o'i gwmpas. Roedden nhw i gyd yn beichio crïo.
2 A dyma Shechaneia fab Iechiel, o deulu Elam, yn dweud wrth Esra:“Dŷn ni wedi bod yn anffyddlon i Dduw yn priodi merched y bobloedd eraill sy'n byw yma. Ac eto mae gobaith i Israel er gwaetha'r cwbl.
3 Gad i ni wneud ymrwymiad i'n Duw i yrru'r gwragedd yma a'u plant i ffwrdd, fel rwyt ti a'r rhai eraill sy'n parchu gorchmynion Duw yn cynghori. Gad i ni wneud hynny fel mae'r Gyfraith yn dweud.
4 Tyrd, mae'n rhaid i ti wneud rhywbeth am y sefyllfa. Bwrw iddi. Dŷn ni tu cefn i ti.”
5 Felly dyma Esra yn codi a chael arweinwyr yr offeiriaid a'r Lefiaid a pobl Israel i gyd i addo gwneud hyn. A dyma nhw i gyd yn addo ar lw y bydden nhw'n ufuddhau.