3 Gad i ni wneud ymrwymiad i'n Duw i yrru'r gwragedd yma a'u plant i ffwrdd, fel rwyt ti a'r rhai eraill sy'n parchu gorchmynion Duw yn cynghori. Gad i ni wneud hynny fel mae'r Gyfraith yn dweud.
4 Tyrd, mae'n rhaid i ti wneud rhywbeth am y sefyllfa. Bwrw iddi. Dŷn ni tu cefn i ti.”
5 Felly dyma Esra yn codi a chael arweinwyr yr offeiriaid a'r Lefiaid a pobl Israel i gyd i addo gwneud hyn. A dyma nhw i gyd yn addo ar lw y bydden nhw'n ufuddhau.
6 Yna dyma Esra yn gadael y deml, a mynd i aros yn ystafell Iehochanan fab Eliashif. Wnaeth e ddim bwyta na hyd yn oed yfed dŵr tra roedd e yno; roedd e mor drist fod y bobl ddaeth yn ôl o'r gaethglud wedi bod mor anffyddlon.
7 Yna cafodd cyhoeddiad ei anfon allan drwy Jwda a Jerwsalem, yn galw ar bawb ddaeth yn ôl o'r gaethglud i ddod at ei gilydd yn Jerwsalem.
8 Byddai'r rhai oedd ddim yno o fewn tri diwrnod yn colli eu heiddo i gyd. Dyna oedd penderfyniad y swyddogion a'r arweinwyr. Byddai'r bobl hynny yn cael eu diarddel o gymdeithas y rhai ddaeth yn ôl o'r gaethglud.
9 Felly daeth pawb o Jwda a Benjamin at ei gilydd i Jerwsalem o fewn tri diwrnod (ar yr ugeinfed diwrnod o'r nawfed mis). Roedden nhw i gyd yn sefyll yn y sgwâr o flaen teml yr ARGLWYDD. Roedd pawb yn nerfus iawn, ac yn crynu yn y glaw.