59 Daeth pobl eraill o drefi Tel-melach, Tel-harsha, Cerwb, Adon, ac Immer hefyd (ond doedd y rhain ddim yn gallu profi eu bod nhw a'u teuluoedd yn dod o Israel yn wreiddiol):
60 Teulu Delaia, teulu Tobeia a theulu Necoda: 652
61 Wedyn teuluoedd yr offeiriaid, sef teuluoedd Chafaia, Hacots, a Barsilai (dyn oedd wedi priodi un o ferched Barsilai o Gilead, ac wedi cymryd ei enw).
62 Roedd y rhain hefyd wedi chwilio am gofnod o'u teuluoedd yn y rhestrau achau ac wedi methu ffeindio dim byd. Felly cawson nhw eu rhwystro rhag gwasanaethu fel offeiriaid.
63 Dwedodd y llywodraethwr nad oedden nhw i gael bwyta'r bwyd oedd wedi ei gysegru nes byddai offeiriad yn codi oedd yn gallu penderfynu drwy ddefnyddio'r Wrim a'r Thwmim.
64 Cyfanswm y bobl aeth yn ôl oedd 42,360,
65 (heb gyfri'r 7,337 o weision a morynion oedd ganddyn nhw. Roedd yna 200 o gantorion – dynion a merched – gyda nhw hefyd).