1 Pan ddeallodd gelynion pobl Jwda a Benjamin fod y rhai ddaeth yn ôl o'r gaethglud wedi dechrau ailadeiladu teml i'r ARGLWYDD, Duw Israel,
2 dyma nhw'n mynd at Serwbabel a'r arweinwyr eraill, a dweud, “Gadewch i ni'ch helpu chi. Dŷn ni wedi bod yn addoli eich Duw chi ac yn aberthu iddo ers i Esar-chadon, brenin Asyria, ein symud ni yma.”
3 Ond dyma Serwbabel, Ieshŵa ac arweinwyr eraill Israel yn ateb, “Na, gewch chi ddim helpu i adeiladu teml i'n Duw ni. Ni sy'n mynd i'w hadeiladu ein hunain, i'r ARGLWYDD, Duw Israel. Mae Cyrus, brenin Persia, wedi gorchymyn i ni wneud hynny.”
4 Yna dyma'r bobl leol yn dechrau creu trafferthion i bobl Jwda a gwneud iddyn nhw ddechrau colli plwc.
5 Roedden nhw'n breibio swyddogion y llywodraeth i achosi problemau a rhwystro'r gwaith rhag mynd yn ei flaen. Roedd hyn yn digwydd yr holl flynyddoedd y bu Cyrus yn frenin Persia, hyd gyfnod y brenin Dareius.