16 Felly, dŷn ni eisiau rhybuddio'r brenin, os bydd y ddinas yma'n cael ei hailadeiladu, a'r waliau yn cael eu gorffen, fydd e ddim yn gallu cadw rheolaeth ar y rhan yma o'i deyrnas yn Traws-Ewffrates.”
17 A dyma'r brenin yn anfon yr ateb yma:“At Rechwm yr uwch-swyddog, Shimshai yr ysgrifennydd, a'u cydweithwyr yn Samaria a'r rhannau eraill o Traws-Ewffrates:Cyfarchion!
18 Cafodd y llythyr wnaethoch chi ei anfon aton ni ei gyfieithu a'i ddarllen o'm blaen i.
19 Felly dyma fi'n gorchymyn edrych i mewn i'r mater, a mae'n wir fod pobl y ddinas yma wedi achosi helynt i frenhinoedd o'r dechrau.
20 Mae brenhinoedd pwerus wedi bod yn teyrnasu dros Jerwsalem ac ardal gyfan Traws-Ewffrates, ac wedi bod yn derbyn trethi a thollau.
21 Felly dw i am i chi orchymyn fod y gwaith i stopio, ac na ddylai'r ddinas gael ei hailadeiladu nes bydda i wedi dweud fel arall.
22 Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwneud hyn. Dŷn ni ddim eisiau i'r frenhiniaeth fod ar ei cholled.”