21 Felly dw i am i chi orchymyn fod y gwaith i stopio, ac na ddylai'r ddinas gael ei hailadeiladu nes bydda i wedi dweud fel arall.
22 Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwneud hyn. Dŷn ni ddim eisiau i'r frenhiniaeth fod ar ei cholled.”
23 Yn syth ar ôl i lythyr y Brenin Artaxerxes gael ei ddarllen i Rechwm, Shimshai a'u cydweithwyr, dyma nhw'n brysio draw at yr Iddewon yn Jerwsalem. Roedden nhw'n bygwth ymyrraeth filwrol os nad oedd y gwaith yn stopio.
24 Felly roedd y gwaith ar deml Dduw yn Jerwsalem wedi dod i stop. Wnaeth y gwaith ddim ailddechrau hyd ail flwyddyn teyrnasiad y Brenin Dareius o Persia.