9 “Llythyr oddi wrth Rechwm yr uwch-swyddog, Shimshai yr ysgrifennydd, a'u cydweithwyr – yn farnwyr, arolygwyr, swyddogion, ac ysgrifenyddion. Hefyd pobl Erech, Babilon, a Shwshan (sef yr Elamiaid),
10 a pawb arall gafodd eu symud i fyw yn Samaria a threfi Traws-Ewffrates gan y brenin mawr ac enwog, Ashwrbanipal.”
11 (Mae hwn yn gopi o'r llythyr gafodd ei anfon:)“At y Brenin Artaxerxes, oddi wrth dy weision yn Traws-Ewffrates.
12 Dylai'r brenin wybod fod yr Iddewon ddaeth aton ni yma oddi wrthoch chi wedi mynd i Jerwsalem, ac maen nhw'n ailadeiladu'r ddinas wrthryfelgar, afiach yna. Maen nhw bron â gorffen y waliau, ac yn trwsio ei sylfeini.
13 A dylai'r brenin sylweddoli y bydd ar ei golled os bydd y gwaith yma'n cael ei orffen. Fydd dim mwy o drethi na thollau yn cael eu talu ganddyn nhw wedyn!
14 Fel rhai sy'n deyrngar i'r brenin, fydden ni ddim eisiau i'r brenin gael ei ddifrïo. Roedden ni eisiau iddo wybod am hyn,
15 er mwyn iddo orchymyn archwilio cofnodion ei ragflaenwyr. Bydd e'n darganfod wedyn fod Jerwsalem wedi achosi dim byd ond trwbwl i frenhinoedd a thaleithiau. Mae un helynt ar ôl y llall wedi codi o'i mewn o'r dechrau. A dyna'n union pam cafodd y ddinas ei dinistrio!