10 A dyma ni'n gofyn beth oedd eu henwau nhw, er mwyn rhoi gwybod i chi mewn ysgrifen pwy ydy'r arweinwyr.
11 A dyma'r ateb gawson ni, “Gweision Duw y nefoedd a'r ddaear ydyn ni. Dŷn ni'n ailadeiladu'r deml yma gafodd ei chodi ganrifoedd yn ôl gan un o frenhinoedd mwyaf Israel.
12 Ond ar ôl i'n hynafiaid ni ddigio Duw y nefoedd, dyma fe'n gadael i Nebwchadnesar, brenin Babilon, eu concro nhw. Dinistriodd y deml a chymryd y bobl yn gaethion i Babilon.
13 Ond yna, yn ystod ei flwyddyn gyntaf fel brenin, dyma Cyrus brenin Babilon yn gorchymyn fod teml Dduw i gael ei hadeiladu eto.
14 Dyma fe hyd yn oed yn rhoi llestri aur ac arian y deml yn ôl (y rhai oedd Nebwchadnesar wedi eu cymryd o Jerwsalem i'w balas yn Babilon). Rhoddodd Cyrus nhw i ddyn o'r enw Sheshbatsar, oedd wedi ei benodi yn llywodraethwr ar Jwda,
15 a dweud wrtho, ‘Dos â'r llestri yma yn ôl i'w gosod yn y deml yn Jerwsalem. Mae teml Dduw i gael ei hadeiladu eto ar y safle cywir.’
16 Felly dyma Sheshbatsar yn mynd ati i osod sylfaeni teml Dduw yn Jerwsalem, ac mae'r gwaith adeiladu yn dal i fynd yn ei flaen, ac yn dal heb ei orffen.