3 Ond wedyn dyma Tatnai (llywodraethwr talaith Traws-Ewffrates) a Shethar-bosnai a'i cydweithwyr yn mynd atyn nhw, a gofyn, “Pwy sydd wedi rhoi caniatâd i chi ailadeiladu'r deml yma, a gorffen codi'r waliau?”
4 A dyma nhw'n gofyn hefyd, “Beth ydy enwau'r dynion sy'n gwneud yr adeiladu?”
5 Ond roedd Duw yn gofalu amdanyn nhw, a doedd dim rhaid iddyn nhw stopio nes oedd adroddiad wedi ei anfon at Dareius, a llythyr am y peth wedi ei anfon yn ôl.
6 Dyma gopi o'r llythyr wnaeth Tatnai (llywodraethwr talaith Traws-Ewffrates), Shethar-bosnai a swyddogion yn y dalaith, ei anfon at y brenin Dareius.
7 Roedd yn darllen fel yma:At y Brenin Dareius: Cyfarchion!
8 Dylai'r brenin wybod ein bod ni wedi mynd i dalaith Jwda. Yno mae teml y Duw mawr yn cael ei hadeiladu gyda cherrig anferth, ac mae trawstiau pren yn cael eu gosod yn y waliau. Maen nhw wrthi'n brysur yn gwneud y gwaith, ac mae'n mynd yn ei flaen yn dda.
9 Dyma ni'n gofyn i'r arweinwyr, “Pwy sydd wedi rhoi caniatâd i chi ailadeiladu'r deml yma, a gorffen codi'r waliau?”