5 Ond roedd Duw yn gofalu amdanyn nhw, a doedd dim rhaid iddyn nhw stopio nes oedd adroddiad wedi ei anfon at Dareius, a llythyr am y peth wedi ei anfon yn ôl.
6 Dyma gopi o'r llythyr wnaeth Tatnai (llywodraethwr talaith Traws-Ewffrates), Shethar-bosnai a swyddogion yn y dalaith, ei anfon at y brenin Dareius.
7 Roedd yn darllen fel yma:At y Brenin Dareius: Cyfarchion!
8 Dylai'r brenin wybod ein bod ni wedi mynd i dalaith Jwda. Yno mae teml y Duw mawr yn cael ei hadeiladu gyda cherrig anferth, ac mae trawstiau pren yn cael eu gosod yn y waliau. Maen nhw wrthi'n brysur yn gwneud y gwaith, ac mae'n mynd yn ei flaen yn dda.
9 Dyma ni'n gofyn i'r arweinwyr, “Pwy sydd wedi rhoi caniatâd i chi ailadeiladu'r deml yma, a gorffen codi'r waliau?”
10 A dyma ni'n gofyn beth oedd eu henwau nhw, er mwyn rhoi gwybod i chi mewn ysgrifen pwy ydy'r arweinwyr.
11 A dyma'r ateb gawson ni, “Gweision Duw y nefoedd a'r ddaear ydyn ni. Dŷn ni'n ailadeiladu'r deml yma gafodd ei chodi ganrifoedd yn ôl gan un o frenhinoedd mwyaf Israel.