1 Dyma'r brenin Dareius yn gorchymyn chwilio drwy'r archifau brenhinol oedd yn cael eu cadw yn Babilon.
2 Cafwyd hyd i sgrôl yn y gaer ddinesig yn Echbetana, talaith Media. A dyma oedd wedi ei ysgrifennu arni:“Memorandwm:
3 Yn ystod blwyddyn gyntaf Cyrus yn frenin, dyma fe'n rhoi gorchymyn am deml Dduw yn Jerwsalem: ‘Mae'r deml i gael ei hailadeiladu fel lle i gyflwyno aberthau. Dylai'r sylfaeni gael eu gosod, ac yna dylid ei hadeiladu yn 27 metr o uchder a 27 metr o led,
4 gyda tair rhes o gerrig anferth, ac un rhes o goed. Bydd y trysorlys brenhinol yn talu am y gwaith.
5 Yna hefyd, mae'r llestri aur ac arian wnaeth Nebwchadnesar eu cymryd i Babilon i gael eu rhoi yn ôl. Maen nhw i gael eu gosod ble maen nhw i fod, sef yn y deml yn Jerwsalem.’”
6 Felly dyma Dareius yn ateb Tatnai (llywodraethwr talaith Traws-Ewffrates), Shethar-bosnai, a swyddogion y dalaith:“Rhaid i chi gadw o'r ffordd,
7 a gadael i'r gwaith ar deml Dduw fynd yn ei flaen. Gadewch i lywodraethwr ac arweinwyr Jwda fwrw ymlaen gyda'r gwaith o ailadeiladu teml Dduw lle mae hi i fod.