14 Roedd arweinwyr yr Iddewon yn dal ati i adeiladu, ac yn llwyddiannus iawn, tra roedd Haggai a Sechareia fab Ido yn dal ati i broffwydo. A dyma nhw'n gorffen y gwaith adeiladu roedd Duw Israel wedi ei orchymyn, a hefyd Cyrus, Dareius ac Artaxerxes, brenhinoedd Persia.
15 Dyma nhw'n gorffen adeiladu'r deml ar y trydydd o fis Adar, yn chweched flwyddyn teyrnasiad y brenin Dareius.
16 Trefnodd pobl Israel ddathliad i gysegru'r deml. Roedd pawb yno – yr offeiriaid, y Lefiaid, a pawb arall ddaeth yn ôl o'r gaethglud.
17 Cafodd cant o deirw eu hoffrymu, dau gant o hyrddod, pedwar cant o ŵyn, ac un deg dau bwch gafr dros bechodau pobl Israel (un ar ran pob llwyth).
18 Yna, fel mae sgrôl Moses yn dweud, dyma nhw'n rhannu'r offeiriaid a'r Lefiaid yn grwpiau, i fod yn gyfrifol am addoliad Duw yn Jerwsalem.
19 Dyma'r bobl oedd wedi dod yn ôl o'r gaethglud yn dathlu'r Pasg ar y pedwerydd ar ddeg o'r mis cyntaf.
20 Roedd yr offeiriaid a'r Lefiaid wedi mynd trwy'r ddefod o buro eu hunain ac wedi eu cysegru. Felly dyma nhw'n lladd ŵyn y Pasg ar ran y bobl oedd wedi dod yn ôl o'r gaethglud, ac ar ran yr offeiriaid eraill a nhw eu hunain.