1 Flynyddoedd wedyn, pan oedd Artaxerxes yn frenin Persia, dyma Esra yn symud i Jerwsalem o Babilon. (Esra oedd mab Seraia ac ŵyr Asareia fab Chilceia,
2 ac roedd ei deulu yn ymestyn yn ôl drwy Shalwm, Sadoc, Achitwf,
3 Amareia, Asareia, Meraioth,
4 Seracheia, Wssi, Bwcci,
5 Afishŵa, Phineas ac Eleasar, i Aaron y prif-offeiriad.)
6 Hwn oedd yr Esra ddaeth yn ôl o Babilon. Roedd yn arbenigwr yn y Gyfraith roddodd yr ARGLWYDD, Duw Israel, i Moses. Roedd y brenin Artaxerxes wedi rhoi iddo bopeth roedd wedi gofyn amdano, am fod llaw yr ARGLWYDD ei Dduw arno.
7 Yn ystod seithfed flwyddyn teyrnasiad y Brenin Artaxerxes, dyma Esra yn arwain rhai o bobl Israel yn ôl i Jerwsalem (gan gynnwys rhai o'r offeiriaid, Lefiaid, cantorion, gofalwyr y giatiau, a gweision y deml).