16 Hefyd cei fynd a'r holl arian a'r aur fyddi wedi llwyddo i'w gasglu gan dy bobl dy hun a'r offeiriaid sy'n byw yma yn nhalaith Babilon, ac sydd eisiau cyfrannu at deml eu Duw yn Jerwsalem.
17 Mae'r arian yma i'w ddefnyddio i brynu teirw, hyrddod, ŵyn, a'r offrymau o rawn a diod sy'n mynd gyda nhw. Dos â nhw at allor teml dy Dduw yn Jerwsalem.
18 Wedyn gelli ddefnyddio unrhyw arian ac aur sy'n weddill i wneud beth bynnag wyt ti a dy gyd-offeiriaid yn ei feddwl sydd orau – beth bynnag wyt ti'n feddwl mae dy Dduw eisiau.
19 Dos â'r llestri sydd wedi eu rhoi i ti ar gyfer gwasanaeth y deml, a'u rhoi nhw i dy Dduw yn Jerwsalem.
20 Ac os oes rhywbeth arall sydd ei angen ar gyfer y deml, gelli gymryd yr arian i dalu amdano o'r trysordy brenhinol.
21 Dw i, y Brenin Artaxerxes, yn gorchymyn penaethiaid trysordai Traws-Ewffrates i roi i Esra'r offeiriad (yr arbenigwr yng Nghyfraith Duw'r nefoedd) beth bynnag mae'n gofyn amdano.
22 Gallwch roi iddo hyd at dair tunnell a hanner o arian, 10 tunnell o wenith, 2,000 litr o win, 2,000 litr o olew olewydd, a faint bynnag o halen mae'n gofyn amdano.