17 Mae'r arian yma i'w ddefnyddio i brynu teirw, hyrddod, ŵyn, a'r offrymau o rawn a diod sy'n mynd gyda nhw. Dos â nhw at allor teml dy Dduw yn Jerwsalem.
18 Wedyn gelli ddefnyddio unrhyw arian ac aur sy'n weddill i wneud beth bynnag wyt ti a dy gyd-offeiriaid yn ei feddwl sydd orau – beth bynnag wyt ti'n feddwl mae dy Dduw eisiau.
19 Dos â'r llestri sydd wedi eu rhoi i ti ar gyfer gwasanaeth y deml, a'u rhoi nhw i dy Dduw yn Jerwsalem.
20 Ac os oes rhywbeth arall sydd ei angen ar gyfer y deml, gelli gymryd yr arian i dalu amdano o'r trysordy brenhinol.
21 Dw i, y Brenin Artaxerxes, yn gorchymyn penaethiaid trysordai Traws-Ewffrates i roi i Esra'r offeiriad (yr arbenigwr yng Nghyfraith Duw'r nefoedd) beth bynnag mae'n gofyn amdano.
22 Gallwch roi iddo hyd at dair tunnell a hanner o arian, 10 tunnell o wenith, 2,000 litr o win, 2,000 litr o olew olewydd, a faint bynnag o halen mae'n gofyn amdano.
23 Dylid rhoi i'r deml, beth bynnag mae Duw'r nefoedd eisiau. Dw i ddim eisiau iddo ddigio gydag Ymerodraeth y brenin a'i feibion.